Llythyr i'r Capten Arthur Walter gan Thomas Benbow Phillips, 10 Ionawr, 1874
Disgrifiadau
Copi o lythyr ysgrifennwyd at y Capten A Walter yn y Bar o Pelotas gan T B Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 10 Ionawr, 1874
Diolchodd Thomas Benbow Phillips i'r Capten Walter am ei ohebiaeth dyddiedig 4 Ionawr a'r cyfrif a amgaewyd. Nid oedd y Capten yn hapus gyda'r arian a gredydwyd i'w gyfrif. Eglurodd Thomas Benbow Phillips fod y Capten wedi derbyn y cyflog a enillodd, ac fod arno ddyled o £76-9-3 i'r llong. Eglurodd Thomas Benbow Philliops hefyd iddo ganiatáu'r swm a nododd y Capten yn ei lyfr am dreuliau Rio de Janeiro, ond bod y Conswl wedi rhybuddio nad oedd ganddo hawl i'r arian o gyfrif Rio. Cafodd y cyfrifon hynny eu hachosi trwy ei anallu fel Meistr y llong pan hwyliodd gyda'i drafferthion i Rio, a chredid felly fod y Capten Walter yn gyfrifol, yn ôl y gyfraith, am swm llawn y biliau hynny a achoswyd ganddo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment