Llythyr i'r Capten Arthur Walter gan Thomas Benbow Phillips, 20 Ionawr, 1874
Disgrifiadau
Copi o lythyr ysgrifennwyd at y Capten Arthur Walter yn y Bar o Pilotas gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 20 Ionawr, 1874
Roedd Thomas Benbow Phillips wedi derbyn dwy ohebiaeth ganddo dyddiedig 16 Ionawr, ac roedd yn amgáu nodiadau i egluro'r taliadau a wnaeth i gyfrifon y Capten er gwybodaeth. Eglurodd fod tri swm wedi eu tynnu o'r cyfrifon oherwydd fod Capten Walter wedi debydu'r llong gyda'r cyfansymiau hynny yn ei dreuliau neu roeddynt wedi cael eu cyfrif ddwywaith. Cyfarwyddodd y Capten hefyd i bwyllo ac ystyried yn ofalus cyn ysgrifennu at ei frawd-yng-nghyfraith a'r Cwmni Yswiriant. Roedd Capten Walter wedi crybwyll nad oedd yn ddigon siŵr os oedd y llong mewn cyflwr diogel i adael Lloegr, ond dywedodd Thomas Benbow Phillips wrtho y dylai fod yn gwybod hynny i sicrwydd cyn cychwyn. Roedd Thomas Benbow Phillips hefyd yn synnnu fod y Capten wedi bygwth cysylltu gyda'r cwmni yswiriant i drafod hyn, ac y byddai'n ei ddefnyddio i'w bwrpas ei hun ac yn ystyried ei opsiynau pe na bai ei gyfrif ariannol yn cael ei gydnabod. Atgoffodd Thomas Benbow Phillips ef iddo dyngu ar lw o flaen y Llys Morwrol fod y “Beautiful Star” yn ddigon saff i hwylio pan adawodd Lloegr, ond os nad oedd ei chyflwr yn addas, yna nid oedd gan yr Yswiriant hawl i dalu amdani.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment