Llythyr i Joseph Gibson gan Thomas Benbow Phillips, 18 Tachwedd, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Joseph Gibson, Ysw, Dundee gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 18 Tachwedd, 1873, a chopi wedi ei anfon gyda'r “Calderon”
Eglura Thomas Benbow Phillips fod ffafr Joseph Gibson dyddiedig 27 Medi wedi dod i law ar 7 Tachwedd. Cyrhaeddodd Capten Dunn ar 31 Hydref. Ni chyrhaeddodd telegram Joseph Gibson Rio Grande o gwbl, o bosibl oherwydd iddo gael ei anfon i Cadiz yn lle Lisbon. Ar gais Capten Dunn, cynhaliwyd Llys Morwrol i drafod ymddygiad Meistr y “Beautiful Star” oedd yn gwrthod rhoi'r gorau i'w reolaeth o'r llong, a disgwylid dyfarniad yn fuan. Eglurodd Thomas Benbow Phillips fod y llong mewn cyflwr gwael, ac nad oedd dim y gellid ei wneud iddi. Bwriadai fynd ar ei bwrdd i edrych drosti'n fanwl, ond oherwydd diffyg arian, roedd yn amau a allai'r Capten Dunn godi unrhyw arian yno i'w thrwsio. Addawodd Thomas Benbow Phillips adrodd yn ôl i Joseph Gibson yn rheolaidd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment