Skip to main content

Llythyr i Joseph Gibson gan Thomas Benbow Phillips, 18 Awst, 1873

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at Joseph Gibson Ysw, Dundee, gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, 18 Awst 1873

Eglurodd Thomas Benbow Phillips fod y “Beautiful Star” o Dundee wedi cyrraedd porthladd Rio Grande ar 17 Gorffennaf wedi ei difrodi'n arw. Roedd ei Meistr wedi gwneud cais i'r Conswl Prydeinig am archwiliadau angenrheidiol i gadarnhau'r tendr isaf i'w thrwsio. Roedd y swm hwnnw dros £200. Roedd y Conswl wedi gwneud cais am arian trwy bottomry, ond ni ddaeth tendrau i law. Amgaeodd Thomas Benbow Phillips gopi. Dim arian, dim trwsio! Petai'r llong yn cael ei rhoi ar werth, fe'i gwerthid am swm isel iawn. Wedi ymgynghori gyda'r Conswl, daeth Thomas Benbow Phillips i'r casgliad y dylid ei gadael lle'r oedd hyd nes y byddai'n cael cyfarwyddyd pellach gan Joseph Gibson. Byddai'n mynd ar ei bwrdd i gwblhau rhestr eiddo a'i rhoi yng ngofal gofalwr-llong.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
18/8/1873
Gwelediadau:
697
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment