Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Capten Arthur Walter ym Mar Pelotas gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 16 Ionawr 1874

Eglurodd Thomas Benbow Phillips i'r Capten Arthur Walter fod bil wedi amgáu gyda'r llythyr yn dangos fod y swm o £10-11-6¾ yn ddyledus ganddo i'r Capten Dunn. Roedd Thomas Benbow Phillips wedi rhoi'r swm cyfan o dreuliau Rio de Janeiro iddo, sef £52-1-11¾. Nododd ei fod yn edrych yn amheus, oherwydd ei fod 15/2½ yn fwy na'r hyn a gafodd gan John Moore & Cyf, a soniodd fod Arthur Walter wedi codi tâl yn ei lyfr am eitemau roedd hefyd wedi codi tâl amdanynt yng nghyfrif Hue. Roedd Thomas Benbow Phillips yn disgwyl i Arthur Walter fod yn fodlon gyda'r cyfrif, neu bydai'n rhaid iddo nodi manylion, byddai swm ei ddyled i Capten Dunn yn fwy, a byddai'n rhaid cymryd mesurau ychwanegol i sicrhau taliad. Roedd stemar yn gadael Rio Grande ar 18 Ionawr am Rio, ac roedd Thomas Benbow Phillips yn disgwyl cau pen y mwdwl ar faterion y “Beautiful Star” ac anfon y papurau a'r arian i Loegr. Ni fyddai unrhyw daliadau pellach yn cael eu caniatáu wedyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw