Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Diolchodd Thomas Benbow Phillips i Randal Callander am ei ohebiaeth dyddiedig 2 Tachwedd, yn cynnwys dyfyniadau o lythyr gan Charge D'affairs Ei Mawrhydi yn Rio de Janeiro ynghylch ei hawliad. Noododd Thomas Benbow Pillips iddo wneud cais am iawndal oherwydd difgaterwch cywilyddus yr Awdurdodau a'r modd y bu iddynt amddiffyn Wenceslaw pan fu iddo ymosod ar Thomas Benbow Phillips y tro cyntaf. Roedd wedi cyflogi notari i gofnodi ei gŵyn a gyflwynwyd i'r Delegado bryd hynny, ac wedi cynnwys enwau tystion i'r ymosodiad fu arno. Nododd petai Wenceslau wedi ei gosbi ar ôr yr ymosodiad cyntaf, na fyddai wedi medru ymosod eilwaith arno, ac ni fyddai yntau, wedyn, fel dinesydd Prydeinig wedi dioddef anaf trwy esgeulusdod yr Awdurdodau. Atgoffodd Thomas Benbow Phillips y Conswl fod cysylltiadau diplomyddol rhwng Prydai a Brasil wedi eu hatal dros dro oherwydd yr anhawsterau Eingl-Brasil. Pan ddaeth Mr Perry â chais Thomas Benbow Phillips i sylw'r Llysgenhadaeth, newydd gyrraedd roedd y Gweinidog Prydeinig, Mr Thornton, ac roedd yn disgwyl i Mr Perry ddelio gyda'r mater yn ôl ei ddisgresiwn. Fodd bynnag, cafodd Mr Perry ei symud tua'r adeg yna, a'r Conswl dros dro, Mr Berg, oedd wedi anfon copi o lythyr Mr Thornton i Thomas Benbow Phillips. Mr Gallan oedd y Conswl ar yr adeg pan gafodd ei anafu, felly dylai o fod wedi gwneud yn siŵr fod y cais wedi ei anfon i'r man cywir. Nododd Thomas Benbow Phillips fod cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers pan gafodd yr anfadwaith ei gyflawni, ond na ddylai hynny wneud gwahaniaeth i'w gais. Amgaeodd gopi o'r gŵyn a luniodd yn erbyn Wenceslaw pan fu iddo ymosod arno y tro cyntaf.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw