Llythyr ysgrifennwyd at Randal Callander Ysw, Conswl Ei Mawrhydi yn Rio Grande do Sul, gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 20 Mai, 1875
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Randal Callander Ysw, Conswl Ei Mawrhydi yn Rio Grande do Sul, gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande, dyddiedig 20 Mai, 1875
Darllenodd Thomas Benbow Phillips y copi o'r Presidential Dispatch, dyddiedig Porto Alegro, 22 Ionawr 1875, anfonwyd at y Dirprwy Gonswl Prydeinig yno, yn cyfeirio at yr ymgais wnaed i'w lofruddio gan Wenceslau Mantins da Silva yn 1864. Mynegodd ei anfodlonrwydd gyda'r digwyddiadau bryd hynny, ac anallu Awdurdodau'r Heddlu ym Mhelotas i ddwyn y troseddwr o flaen ei well. Gan nad oedd y Llywodraeth Taleithiol yn cynnig iawndal, roedd Thomas Benbow Phillips yn crefu ar Randal Callender i ddwyn ei achos o flaen y Llywodraeth Ymerodrol, ac adrodd yn ôl iddo.
Ym 1862, roedd gan Thomas Benbow Phillips fusnes llewyrchus ger Pelotas; cadwai ei geffyl mewn cae cyfagos, gyda ffens gref oddi amgylch a ffos ddwbl. Un noson, roedd Wenceslau Mantins da Silva wedi torri drwy'r gwrych, lefelu rhan o'r ffos a dwyn y ceffyl. Cafwyd hyd i'r ceffyl ymhen 17 diwrnod. Ymddengys fod Wenceslau wedi bygwth darnio Thomas Benbow Phillips “fel pwmpen”, ac ymosododd arno gyda facās hir wedi ei guddio dan ei poncho. Er bod wyth tyst i'r digwyddiad, ni chymerwyd achos yn ei erbyn, a dywedwyd wrth Thomas Benbow Phillips y byddai'n rhaid iddo erlyn ar ei gost ei hun, tua pum can milreis, a hyd yn oed wedyn, efallai y byddai rheithgor yn rhyddhau Wenceslau. Fodd bynnag, ni bu treial, nis cosbwyd am ymosod ar Thomas Benbow Phillips gyda chyllell a phistol, ac oherwydd ei fod yn enciliwr, fe'i hanfonwyd yn ôl i'w gatrawd. Ar 19 Hydref, 1864, tra'r oedd Thomas Benbow Phillips yn tynnu'r bolltau ar ddrws ei siop, fe'i trywanwyd drwy'i gorff gan Wenceslau, oedd wedi dychwelyd i ymosod arno'r eildro. Bu Dr Barcellos yn gweini arno, a chyflwynodd adroddiad am y digwyddiad i Awdurdodau'r Heddlu. Roedd Delegado'r Heddlu wedi rhoi trwydded i Wenceslau groesi'r ffin i'r Banda Dwyreiniol dridiau'n gynharach. Ymddengys iddo fod yn ddisgynydd o deulu o ladron drwg-enwog a lloffruddion, ac er iddo geisio llofruddio Ivaquim Neves, un o ddinasyddion parchus Pelotas, fe'i cafwyd yn ddieuog. Galwodd Thomas Benbow Phillips Wenceslau yn “llofrudd breintiedig”ac awgrymodd bod yr Awdurdodau ym Mhelotas yn esgeulus yn eu dyletswydd. Dymunodd Thomas Benbow Phillips hawlio iawndal oherwydd iddo fod yn analluog i weithio am gyfnod hir ar ôl yr ail ymosodiad. Mynnodd fod Conswl y Frenhines yn cael iawndal iddo o gant a dau ddeg a naw contos, naw cant a chwe deg tri mil, cant a hanner ac un reis.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment