Skip to main content

Llythyr i Randal Callander gan Thomas Benbos Phillips, 28 Tachwedd, 1874

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at Randal Callander Ysw, Conswl Ei Mawrhydi yn Rio Grande do Sul gan Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande do Sul, dyddiedig 28 Tachwedd, 1874.

Mynegodd Thomas Benbow Phillips ei syndod o fod wedi darllen yn y “Diain de Riogrando” ar 26 Tachwedd fod y troseddwr Wenceslaw Marnins da Silva wedi ei cael ei draed yn rhydd gan y rheithgor neu'r barnwr oedd wedi llywyddu yn y llys ym Mhelotas ar yr achlysur hwnnw. Ymddengys fod y drwgweithredwr wedi ymosod ar Thomas Benbow Phillips o flaen saith neu wyth o dystion, a dim ond ychydig ddyddiau a dreuliodd yn y carchar. Roedd y drwgweithredwr wedi ceisio ei glwyfo'r eildro, ac er fod yr awdurdodau wedi cymryd camau i drefnu ymchwiliad Consylaidd, ni chymerasant unrhyw gamau pellach i'w gosbi. Ysgrifennodd Thomas Benbow Phillips at Randal Callander pan glywodd fod y drwgweithredwr wedi ei ddal dri mis yn gynharach am ymosod ar ddyn ym Mhelotas, i ofyn a ellid ei ddwyn i gyfri am ymosod arno yntau. Gofynnodd Thomas Benbow Philliops i Randal Callander sicrhau y byddai'r achos hwn yn cael ei ddwyn o flaen y Llywodraeth Ymerodrol, oherwydd ei fod yn dymuno cael iawndal am yr anafiadau a dderbyniodd.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
28/11/1874
Gwelediadau:
814
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment