Copi o'r Arolwg Consiwlar Cyntaf wnaed ar y “Beautiful Star”, 24 Gorffennaf, 1873
Disgrifiadau
Hwn oedd yr Arolwg Consylaidd 1af ar y “Beautiful Star”
Adroddiad a ysgrifennwyd ac a arwyddwyd gan Edward W Bell, cyn Feistr y “Brigantine” a'r Prif Saer Llongau Joagm José Soteiro dos Santor yn Rio Grande do Sul, dyddiedig 23 Gorffennaf 1873
Roedd y ddau ddyn wedi derbyn cyfarwyddiadau gan Conswl B Ei Mawrhydi, R Callander, Ysw, i gynnal arolwg o'r Llong Brydeinig “Beautiful Star” o Dundee oedd erbyn hyn yn aros yn S Josi de Norte a llunio adroddiad ar y difrod a wnaed i'r llong ar ei mordaith o Cadiz i Rio Grande do Sul. Roeddynt wedi ei harchwilio'n fanwl ac ysgrifennu ac arwyddo adroddiad manwl oedd yn egluro pan nad oedd hi'n ffit i hwylio ar y môr. Roedd y ddau ddyn wedi arwyddo'r ddogfen hon ar lw ym mhresenoldeb Randal Callander, Conswl HBM.
Y llinell olaf yw:
(arwyddwyd) Mestre carpinteiro Joaquim Jose Loteiro dos Santos,
sef o'i gyfieithu: (arwyddwyd) Master Carpenter Joaquim Jose Loteiro dos Santos
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment