Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Arthur Walter, 16 Ionawr, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Arthur Walter oddi ar y SS “Coadjuctor” Bae Pelotas, dyddiedig 16 Ionawr 1873
Diolchodd Arthur Walter i Thomas Benbow Phillips am ei lythyr a'r copi o'r cyfrif cyfredol yn nodi manylion ariannol. Dywed ei fod yn credu eu bod yn gymhleth ofnadwy. Credai fod y Capten Dunn mewn dyled o £30-£35 iddo. Gobeithiodd Arthur Walter y byddai'n gallu mynd i Rio Grande yn y dyfodol agos. Roedd y llong wedi ei llwytho gyda thybaco yng Nghaerdydd. Adroddodd Arthur Water grynodeb o'r cyfrifon i Thomas Benbow Phillips, ond nid oedd yn gallu eu deall yn llwyr, ac roedd yn gobeithio y gallai Thomas Benbow Phillips roi goleuni ar y mater.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment