Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr a ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips ar y “Beautiful Star” yn Rio Grande do Sul, gan Joseph Gibson, dyddiedig 27 Medi 1873

Diolchodd Joseph Gibson i Thomas Benbow Phillips am ei lythyr y 18fed ynghylch y llong, ac aeth i weld y Capten Dunn ar fyrder, gan ei fod yn gadael ar y stemar cyntaf i ymuno â'r llong. Anfonodd Joseph Gibson gopi o'r telegram a dderbyniodd gan Cadiz, a gobeithiai y byddai pethau'n cael eu rhoi mewn trefn o'r dechrau'n deg pan fyddai Capten Dunn yn cyrraedd. Byddai'n ceisio anfon rhan o'r arian ymlaen llaw, ond os nad oedd gan Thomas Benbow Phillips hysbysiad talu ganddo, byddai Joseph Gibson yn anrhydeddu'r rhandaliad o £100 i'r Capten Dunn. Fodd bynnag, efallai y byddai'r Capten yn gallu trefnu ei faterion ariannol ei hun.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw