Skip to main content

Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan John G Cox, 25 Awst, 1873

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips (y Cyfaill Phillips) gan John G Cox, ym Monte Video, dyddiedig 25 Awst 1873

Nid oedd John G Cox wedi cysylltu gyda Thomas Benbow Phillips ers talwm, ac aeth ymlaen i ddweud nad oedd wedi cael mordaith bleserus ar y Sgwner “Little Prince”. Bu'n rhaid ei achub gan Miguel o'r Gwaith Halen, ac fe werthodd y llong iddo. Dywedodd wrth Thomas Benbow P hillips ei fod wedi bod mewn cyswllt gyda'r cyfaill Barnes ac Evans. Petai gan Thomas Benbow Phillips ohebiaeth i'r Wladfa, byddai'n rhaid iddo ei anfon iddo cyn gynted â phosibl, oherwydd byddai'n mynd i'r Wladfa ar long genhadol. Nid oedd ganddo ragor o newyddion i Thomas Benbow Phillips, ond roedd Mrs Cox a'r teulu yn cofio ato.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
23/8/1873
Gwelediadau:
578
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment