Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Copi i'r 'Calderon'

Llythyr ysgrifennwyd at Joseph Gibson, Ysw, Dundee gan Thomas Benbow Phillips o Rio Grande, dyddiedig 18 Rhagfyr 1873

Eglurodd Thomas Benbow Phillips iddo roi cyngor ysgrifenedig i Joseph Gibson ar 18 Awst parthed y “Beautiful Star” a chytunodd y Conswl ac yntau y dylid rhyddhau'r Capten o'i ddyletswyddau. Fodd bynnag, nid oedd y Conswl wedi cadw eu hochr nhw o'r cytundeb, felly cafodd y llong ei hamddifadu o'i storfa, offer gweithredu, 'warp', hwyliau ac ati. Gwaredwyd nhw gan y Capten. Fodd bynnag, pan fynychodd Lys y Llynges, ei amddiffyniad oedd fod yr offer hwnnw wedi ei ddwyn oddi ar y llong, a phenderfynodd y Llys na ellid profi'r cyhuddiadau. Bu'r Capten Dunn ar y bwrdd yn gyson, ac yn ei farn ef, bu'r llong ar y traeth ac oherwydd ei bod yn amhosibl codi arian i dalu am yr atgyweiriadau, roedd wedi gadael y llong yn nwylo Thomas Benjbow Phillips fel Asiant y Cwmni Yswiriant, ac wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig. Roedd Thomas Benbow Phillips wedi anfon arolygwyr ar ei bwrdd a chyhoeddi fod y llong wedi ei andwyo, fod y prif fast wedi torri a bod arni angen hwyliau ac offer newydd. Oherwydd nad oedd yn bosibl codi arian, bwriadai Thomas Benbow Phillips werthu'r llong mewn Arwerthiant Cyhoeddus ar 22 Rhagfyr. Byddai'r holl Ddogfennau perthnasol yn cael eu hanfon at Joseph Gibson ar ôl y gwerthiant. Credai Thomas Benbow Phillips fod Capten Walter, Meistr y “Beautiful Star” wedi ymddwyn yn anghyfrifol trwy esgeuluso'r llong i'r fath raddau, nes ei fod yn amau a ddylai barhau i gadw ei Dystysgrif.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw