Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Stuart Barnes, 15 Ebrill, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at T B Phillips yn Rio Grande gan Stuart Barnes yn Calle Reconquista 72, Buenos Ayres, dyddiedig 15 Ebrill 1873
Diolchodd Stuart Barnes i Thomas Benbow Phillips am ei ffafr werthfawr o'r 9 Ebrill, mynegodd ofid na allai symud ymlaen i'w gartref ar ôl absenoldeb mor hir mewn amgylchiadau dyrys, ac ymddiheurodd am esgeuluso rhoi rhywfaint o arian i Thomas Benbow Phillips. Nid oedd y “Rush” wedi cael ei rhyddhau ac roedd wedi penderfynu peidio â chael dim cysylltiad gyda'r Capten. Roedd y Conswl wedi apwyntio dau i archwilio'r cyfrifon a pharatoi adroddiad. Fodd bynnag, oherwydd eu bod wedi darganfod anghysondebau ac esgeulustod dyletswyddau dybryd gan y Capten, argymhellwyd y dylid “ei anfon i'r Unol Daleithiau i sefyll ei brawf, ac y dylai'r llyfrau a'r papurau gael eu hanfon i'r perchenogion ar gyfer eu setliad rhyngddynt a'r Capten”. Roedd Mr Mathews wedi hwylio i Loegr, roedd Mr Jones yn mynd i Fontevideo ac adre gyda'r Capten Cox. Roedd y Sgwner “Gen. Brown” a'r sgwner “Maria Ann” yn cael eu haddasu i fynd allan i Batagonia. Gofynnodd i Thomas Benbow Phillips wneud dwy ffafr iddo: canfod gan y Conswl Prydeinig a oedd Capten Evans wedi anfon unrhyw arian o Rio Grande i'r cyfrif, ac anfon yr adroddiad a addawodd i Stuart Barnes. Dywedodd wrth Thomas Benbow Phillips y byddai'n cadw mewn cysylltiad efo fo, ac yn gobeithio y byddai'n cael derbyn unrhyw wybodaeth a fyddai o fudd i'r ddwy ochr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment