Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Hugh Hughes (Cadvan Gwynedd), 17 Ebrill, 1871
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips Hugh Hughes (Cadvan Gwynedd) yn Ninorben, (Llywydd y Wladfa Gymreig, Chubut) dyddiedig 17 Ebrill 1871
Anfonodd Cadvan Gwynedd lythyr i Thomas Benbow Phillips fel ateb i'w lythyr dyddiedig 25 Mawrth 1868, ac yn gobeithio iddo gyrraedd pen ei daith yn ddiogel. Eglurodd fod y tymor tyfu wedi bod yn siomedig; bu sychder oblegid diffyg glaw, ond petai pympiau i weithio hwyliau'r melinau gwynt, efallai y byddai amgylchiadau wedi bod yn well. Roedd Cadvan Gwynedd yn gobeithio y byddai Thomas Benbow Phillips a'i deulu'n cyrraedd yn fuan, ac yn ystyried prynu storfa neu siop a masnachu gyda'r Indiaid. Roedd yr HM “Caaler” a Chapten Dennistone wedi cyrraedd erbyn y 1 Ebrill, a Mr Lewis Jones a Mr David Williams, gynt o Efrog Newydd yn teithio ar ei bwrdd i Montevideo ac ymlaen i Buenos Ayres i brynu nwyddau i'w defnydd eu hunain ac i'r Wladfa, Eglurodd Cadvan Gwynedd iddo gael ei ethol yn Lywydd y Drefedigaeth ers 1 Tachwedd 1869, ac y byddai ei swydd yn darfod yn Nhachwedd 1871. Cynhelid etholiadau ar 1 Tachwedd yn flynyddol. John Griffith oedd Ysgrifennydd y Drefedigaeth, Mr Lewis Jones oedd Cadeirydd y Cyngor, R J Berwyn oedd yr Ysgrifennydd a Mr D Williams oedd yr Ynad Heddwch. Gobeithiai y byddai Thomas Benbow Phillips yn ateb ei lythyr i ddweud a fyddai'n ymweld ai peidio.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment