Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan y Capten Fred Spurr yn Montevideo dyddiedig 26 Tachwedd 1874

Dymunai Capten Fred Spurr wybod os oedd y Cyrnol Barns yn dal yn Rio Grande, oherwydd dylai fod wedi danfon arian i wraig a theulu Fred Spurr, ond nid oeddynt wedi ei dderbyn. Nid oedd Mrs Spurr wedi gweld y Cyrnol Barnes, ac roedd rhai llythyrau pwysig ac amlenni yn cynnwys pres ar goll. Petai'r Cyrnol Barnes yn dal yn Rio Grande, gofynnodd Fred Spurr i Thomas Benbow Phillips wneud ymholiadau ar ei ran, a nododd ei fod hefyd yn ysgrifennu at Mr Peabody i weld os gwyddai hynt a helynt y brawd, ac y dylid anfon unrhyw wybodaeth at Mr W D Evans. Roedd Capten Cox wedi mynd i Ewrop y diwrnod blaenorol ar y stemar “Careodavo”.

Dros y ddalen mae'r ddau air “Capt Spurr”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw