Llythyr i'r Capten J G Evans gan Stuart Barnes, 22 Mawrth, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at y Capten J G Evans ar y Brig “Rush” gan Stuart Barnes yn Calle Reconquista 72, Buenos Aires, dyddiedig 22 Mawrth 1873
Hysbysodd Stuart Barnes y Capten Evans iddo dderbyn dwy ffafr ar 10 Mawrth oddi wrth y Capten Cox. Roedd hefyd wedi anfon Pwer Atwrnai llawn i Thomas Benbow Phillips i weithredu ar ran perchnogion y “Rush”, ac roedd Capten Evans i ufuddhau i orchmynion a chyfarwyddiadau Thomas Benbow Phillips. Roedd arian a'r cynyrch a gafwyd gan deithwyr neu drwy nwyddau, yn ogystal â chyfrifon, biliau ayb a phapurau'r llong cysylltiedig â'r siwnrnai bresennol, i'w trosglwyddo i Thomas Benbow Phillips. Roedd y llong i'w hwylio i borthladd Buenos Aires cynted â phosibl, a'r Capten Evans i adrodd i Stuart Barnes yn ddisymwth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment