Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at y Capten Evans ar y Brig “Rush” gan Stuart Barnes yn Calle Reconquista 72, Buenos Aires, 24 Mawrth 1873

Rhybuddiodd Stuart Barnes y Capten Evans yn chwyrn am ei anfadwaith yn anufuddhau i orchmynion clir a gafodd yn ysgrifenedig ac yn bersonol yn Montevideo, ynglŷn â'r nwyddau ar fwrdd y “Rush”. Dylai'r nwyddau yma fod wedi cael eu cyflwyno i Thomas Benbow Phillips. Roedd Stuart Barnes yn siarsio Capten Evans i roi rhestr eiddo llawn i Thomas Benbow Phillips o'r holl nwyddau ar y llong, yn ogystal ag adroddiad llawn am unrhyw werthiant a wnaed gan y Capten.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw