Skip to main content

Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Stuart Barnes, 22 Chwefror, 1873

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips yn Rio Aegro gan Stuart Barnes yn 72, Calle Reconquista, Buenos Ayres, dyddiedig 22 Chwefror 1873

Adroddodd Stuart Barnes fod un o'r Brodyr Harris wedi gadael am Batagones a gobeithiodd y byddai Thomas Benbow Phillips yn darllen y llythyr hwn cyn i'r llong hwylio. Wedi cyrraedd Patagones roedd Stuart Barnes yn gofyn i Thomas Benbow Phillips edrych o gwmpas ynghylch busnes, coed, bwydydd, nwyddau, olew, tybaco a phethau eraill, gan gynnwys halen. Bwriadodd Stuart Barnes fynd yno ei hun ar y trip nesaf a chadarnhaodd ei fod yn gobeithio y byddai Thomas Benbow Phillips yn sicrhau y byddai popeth yn rhedeg yn esmwyth a bod pob dim yn iawn rhyngddo ef a'r Capten Evans. Dymunoddd ateb buan gan Thomas Benbow Phillips gan ddymuno siwrnai ffyniannus iddo.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
22/2/1873
Gwelediadau:
569
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment