Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Stuart Barnes, 3 Mai, 1873
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande do Sul gan Stuart Barnes ym
Muenos Ayres, dyddiedig 3 Mai 1873
Dywedodd Stuart Barnes wrth Thomas Benbow Phillips ei fod yn falch o glywed iddo gyrraedd adref yn ddiogel, gwerthfawrogodd yr adroddiad calonogol am ei siwrnai i Chupat a ffyniant y Wladfa a oedd yn ei lythyr. Addawodd anfon ymlaen y wybodaeth amgaëedig i gyfeillion y Wladfa adre, a oedd wedi, hyd yma, dderbyn gwahanol adroddiadau amdani. Roedd y llong “Rush” wedi ei chondemnio ac ar fin cael ei gwerthu. Byddai Capten Evans yn teithio i Efrog Newydd ar yr “Effa”, ond roedd y llong roeddent i fod i deithio arni wedi landio ym Mryste. Roedd Mr Williams hefyd gyda'r Capten. Nid oedd un Mr Roberts wedi ymddwyn yn dda, ac wedi cael ei gloi fyny sawl gwaith am feddwdod. Roedd busnes Stuart Barnes yn ffynnu, ac roedd wedi gwneud elw sylweddol o dri chant a phum deg saith mil trwy werthu tir. Disgwyliai long oedd yn cario peiriannau i'w waith olew unrhyw ddiwrnod. Roedd ei iechyd yn foddhaol a gobeithiodd y byddai'r llythyr yn nodi fod Thomas Benbow Phillips hefyd yn iach ac yn llewyrchus.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment