arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Christopher James yn Rio Grande do Sul, dyddiedig 15 Ebrill 1868.

Derbyniodd Christopher James lythyr oddi wrth Thomas Benbow Phillips ac eglurodd nad oedd Mrs Christopher James wedi anghofio ymweld â'i fam, ond y byddai'n gwneud hynny y tro nesaf iddi fod ym Mhelotas. Amgaeodd ychydig linellau roedd Mrs Christopher James wedi eu hysgrifennu at fam Thomas Benbow Phillips. Adroddodd hefyd ei fod wedi trefnu cael gwneud bocs tun i gario'r menyn. Roedd angen ei nôl o dŷ Mr Domingo Cordeiro. Byddai'r clo yn agor gyda'r gair EPIC, a gofynnodd am ei farn ar hyn.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw