Skip to main content

Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Christopher James, 21 Mai, 1868

Disgrifiadau

Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Christopher James o James & Co, Rio Grande do Sul, dyddiedig 21 Mai 1868.

Diolchodd Christopher James i Thomas Benbow Phillips am y ddau lwyth o fenyn a anfonodd ar 13 a'r 18 Mai a'i hysbysu nad oedd ganddo eisiau mwy am ychydig ddyddiau, oherwydd credai fod y dyn yn anfon menyn heb fod cystal iddo. Holodd Christopher James hefyd os oedd Thomas Benbow Phillips wedi ysgrifennu at y Conswl ynghylch cofrestru ei ferch, Winifred; os nad oedd wedi gwneud hynny, byddai Christopher James yn gwneud ar ei ran. Holodd hefyd os oedd Thomas Benbow Phillips wedi bod yn hwyr yn cofrestru ei briodas ei hun yn y Conswl, ac os oedd ei blant eraill wedi eu cofrestru yno.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
21/5/1868
Gwelediadau:
634
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment