Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Christopher James, 3 Ebrill, 1868
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips, Ysw ym Mhelotas gan Christopher James yn Rio Grande, dyddiedig 3 Ebrill 1868.
Dywed Christopher James iddo dderbyn ffafr werthfawr Thomas Benbow Phillips y diwrnod blaenorol a bocs yn cynnwys 4 pwys o fenyn ffres. Roedd yn ddiolchgar am y ddau. Roedd yn amgáu 8 milreis fel tâl, a phetai unrhyw newid, roedd Thomas Benbow Phillips i fod i'w roi i'w fab. Gofynna Christopher James os byddai TBP yn sicrhau ei fod yn cael cyflenwad o 2 bwys o fenyn bob wythnos, faint bynnag y gost, cyn belled â bod yr ansawdd yn dda. Roedd Mrs James yn poeni'n arw am Winifred, ond roedd yn hapus iawn pan glywodd gan Thomas Benbow P hillips yn ei lythyr dyddiedig 2 Ebrill fod pob dim yn iawn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment