Copi o lythyr i'r Mri Sinclair Horrocks & Cyf gan Ed Roper, 2 Mawrth, 1868
Disgrifiadau
Copi o lythyr ysgrifennwyd at Sinclair Horrocks & Cyf, gan Edward Roper o Moulton, dyddiedig
2 Mawrth 1868.
Mynega Edward Roper ei ddiolch i'r Cwmni am eu gohebiaeth dyddiedig 21 Chwefror, a phwysleisio'n gadarn nad oedd ganddo eisiau cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros ei nai (sef George Roper). Fodd bynnag, roedd ganddo eisiau gwneud yn hysbys fod eiddo bychan o rai cannoedd o bunnoedd allan ar forgais gan yr Ymddiriedolwyr (Mri Florre & Cross o Golchester), a byddai'n gallu hawlio hyn pan ddeuai i oed (unai ym Mehefin neu Gorffennaf 1969), ond oherwydd fod ei dad wedi marw'n ddiewyllys, ni allai George Roper hawlio'r stad heb yn gyntaf fynd i Lys yn yr ardal neu'r Wladwriaeth lle'r oedd yn byw, o fewn deuddeng mis ar ôl Mehefn 1869. Dywed Edward Roper nad oedd wedi clywed gair gan ei nai, George, ers i'w dad farw, ac nad oedd wedi derbyn ateb i'w lythyrau. Fodd bynnag, petai'r nai yn marw, dywedodd Edward Roper y byddai'n rhaid anfon tystysgrif marwolaeth dilys ato ef neu Mr Barnes, Colchester, Essex. Dymuniad Edward Roper oedd fod cynnwys y llythyr hwn yn cael ei rannnu gyda'i nai, a chydnabu y byddai'n fodlon ad-dalu unrhyw swm rhesymol roedd y Cwmni wedi ei gasglu wrth wirio os oedd ei nai'n dal yn fyw, ond na fyddai'n ystyried talu am ei siwrnai adref.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment