Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones yn Y Bala, dyddiedig 17 Mai 1872

Roedd Michael D Jones newydd dderbyn llythyr Thomas Benbow Phillips, dyddiedig 4 Ebrill. Roedd papurau Buenos Aires, ac yn benodol y River Plate Mail wedi bod yn condemnio'r Wladfa heb sicrhau fod eu ffeithiau'n gywir. Nid oedd y cnwd gwenith yn wych, ond roedd y gwartheg yn llewyrchus, ac roedd digonedd o fenyn a chaws. Nid oedd Michael D Jones yn credu y byddai'r Gwladfawyr yn rhoi'r ffidil yn y to er fod 14 ohonynt wedi llofnodi petisiwn yn gofyn am fwy o wartheg. Credai fod pobl Patagones wedi colli masnach gyda'r Indiaid oherwydd fod y Cymry yn eu trin yn well. Roedd gan lywodraeth Buenos Aires long oedd yn ymweld â'r Wladfa bob deufis, ac roedd yn cario ymfudwyr o Fuenos Ayres i'r Bae Newydd. Dwrdiodd Michael D Jones Thomas Benbow Phillips am beidio â gwneud unrhyw ymdrech i fasnachu oherwydd fod pobl wedi gwneud arian mawr o fasnach y plu estrys a guillango. Roedd 30 o ymfudwyr wedi gadael Efrog Newydd ar y “Rush”. Roedd yr ymosodiad ar y Wladfa wedi gwylltio pobl Efrog Newydd. Roedd Michael D Jones wedi ei wahardd rhag gweithio oherwydd gor-flinder, ond roedd yn erfyn ar Thomas Benbow Phillips i beidio â chario gwirod i'r Indiaid, oherwydd credai y byddai hynny'n dinistrio'r Wladfa yn y pen draw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw