Llythyr (mwy na thebyg) i Thomas Benbow Phillips gan Richard Berwyn Jones, 6 Awst, 1864
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd (mwy na thebyg) at Thomas Benbow Phillips gan Richard Berwyn Jones yn Efrog Newydd, dyddiedig 6 Awst 1864 [gydag Ôl Nodiad i ddweud fod y cyfleusterau mor echrydus yno a'i fod yn amgáu copi o'i lythyr i Mr H Hughes, Lerpwl]
Diolchodd Richard Berwyn i Thomas Benbow Phillips am ei lythyr, a phenderfynu ei ateb yn Saesneg. Noda fod amcanion Thomas Benbow Phillips yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan Richard Berwyn a'i gyd-wladwyr, nad oeddent eto wedi cwblháu eu trefniadau yng Nghymru, a'u bod yn dal i aros am y condemniad ar genhadaeth Mr Phibbs. Byddent yn hysbysu Thomas Benbow Phillips pan fyddai trefniadau teithio ar gychwyn. Nid oedd Richard Berwyn yn siŵr os mai mewn llong neu gwch llai y byddent yn cychwyn, ond roeddent yn ddiolchgar i Thomas Benbow Phillips am awgrymu eu bod yn teithio i borthladd Monte Vider cyn mynd tua'r Bae Newydd yn Chubut. Credai Richard Berwyn y byddai tua deg-ar-hugain o bobl yn teithio ar y dechrau, gyda mwy, gobeithio, yn ystyried gwneud y daith ar ôl sefydlu'r Wladfa. Nid oedd yr ymfudwyr cyntaf yn gyfoethog yn ariannol, ond roeddynt yn bobl gryf yn gorfforol. Bwriadai dau Gymro o Missouri werthu tir er budd y Wladfa. Addawodd Richard Berwyn ysgrifennu eto pan fyddai ganddo rywbeth i'w adrodd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment