Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones, 23 Mehefin, 1869
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd i Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones yn Y Bala dyddiedig 23 Mehefin 1869
Dychwelodd Mr Lewis Jones o'r Wladfa yn Chubut i ymofyn parti o ymfudwyr o Gymru. Canmolodd Michael D Jones y newid yn agwedd Lewis Jones, nododd fod y Wladfa yn ffynnu a gallai ragweld y byddai miloedd yn ymfudo ymhen ychydig flynyddoedd. Roedd llong yn cario gwartheg yn mynd yno fis Tachwedd, a gallai gario Thomas Benbow Phillips o Rio Negro i Chupat. Roedd y cnwd gwenith diweddar wedi bod yn rhagorol ac roedd pethau'n edrych ar i fyny yn y Wladfa o'r diwedd. Roedd Michael D Jones yn diolch i Thomas Benbow Phillips am ei “carte de visite”, yn amgáu un ei hun, a'i obaith oedd y byddai'n clywed fod Thomas Benbow Phillips wedi mynd i'r Wladfa yn Chupat.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment