Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones, 13 Rhagfyr, 1866
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd i Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones yn Y Bala dyddiedig 13 Rhagfyr 1866
Cyrhaeddodd llythyr Thomas Benbow Phillips yn ddiogel ac roedd Michael D Jones yn falch o glywed ei fod yn dal yn benderfynol o ymuno â'r Wladfa Gymreig yn nyffryn Chubut. Dywed y byddai sefydlu'r Wladfa yn dod yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes y Cymry. Gofynna Michael D Jones i Thomas Benbow Phillips helpu hyd eithaf ei allu i sicrhau llwyddiant Y Wladfa, Adroddodd fod y Parch Lewis Humphreys wedi gorfod dychwelyd o'r Wladfa oherwydd problemau iechyd, ac na ddylai fod wedi mynd yno yn y lle cyntaf gyda'i iechyd mor fregus. Fodd bynnag, roedd wedi medru cyflwyno adroddiad llawn am Y Wladfa o ddydd i ddydd. Plannwyd 60 erw o wenith, roedd 50 erw o India Corn yn barod i'w blannu, roedd 100 o wartheg yno, ci gan bob teulu, mochyn neu ddau a ffowls. Roedd yr Indiaid brodorol ar delerau da gyda'r Gwladfawyr ac eisiau masnachu efo nhw; roedd gan yr Indiaid eisiau bara, matti, gwirod, tybaco, cyfrwyau Seisnig, blancedi ayb. Yn gyfnewid, roedd ganddynt grŵyn, plu estrys ac adar. Roedd gan frodorion Patagonia ofn y byddai eu masnach gyda'r Indiaid yn dioddef oherwydd y Drefedigaeth yn Chubut, ac nid oeddynt yn ffafriol iddynt. Gofynnodd Michael D Jones i Thomas Benbow Phillips fod yn fasnachwr i'r Wladfa a'u cyflenwi efo'r nwyddau roeddynt eu hangen. Roedd angen dillad a dirfawr angen esgidiau a bwydydd. Roedd cyflenwadau'r Llywodraeth wedi darfod ers Tachwedd, ac oherwydd fod ganddynt brinder o lysiau, roedd y Gwladfawyr yn dioddef o 'scurvy', ond roedd pob gobaith eu bod ar wella. Byddai angen mewnforio pren adeiladu i'r Wladfa hefyd, ond roedd ganddynt ddigon o gyfranddalwyr i dalu am un llong.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment