Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Joao Fransisco Froes, 18 Medi, 1852
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd i T B Phillips gan Joao Fransisco Froes oddi ar y Steamer Imperodrol, Rio de Janeiro, dyddiedig 18 Medi 1852; dywedir ar ddiwedd y llythyr y dylid anfon gohebiaeth yn syth ato yng ngofal Mri Andrews & Edwards, Rio de Janeiro.
Dywed J F Froes iddo adael Lerpwl yn Ebrill. Cyn ei ymadawiad roedd J F Froes wedi derbyn paced helaeth o lythyrau gan Thomas Benbow Phillips i'w postio i wahanol bobl, ar gost o £1 7s 6c. Roedd yn amgáu dau lythyr a dderbyniodd yn y post gan Mr James Sharples, Roedd J F Froes yn awyddus i glywed sut roedd pethau'n mynd rhagddynt yn y Wladfa, ac roedd yn gobeithio y gellid apwyntio asiant boddhaol yn ei le. Rhybuddiodd J F Froes fod Mr Eleazer Jones, Lerpwl yn elyn i'r Wladfa. Gofyn J F Froes am wybodaeth gyson gan Thomas Benbow Phillips oherwydd byddai'n biti petai'r cynllun yn methu. Dywedodd J F Froes na fyddai llongau'n teithio o Rio Grande am fis, ac oni bai fod Thomas Benbow Phillips yn talu'r post ymlaen llaw, ni fyddai Swyddfa'r Post yn anfon ei lythyrau ymlaen. Anfonodd ei gyfarchion at rieni Thomas Benbow Phillips a'r holl Wladfawyr eraill, ac addo ysgrifennu'n fuan.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment