Llythyr ysgrifennwyd Joao Fransisco Froes o Lerpwl dyddiedig14 Hydref 1848
Disgrifiadau
Ymddiheura am beidio ag ateb yn gynt i'r llythyr dyddiedig y 7fed ond bu'n bur wael. Eglura for Llywodraeth Brasil yn awyddus i hybu coloneiddio Ewropeaid ym Mrasil, a byddent yn estyn pob cymorth i bobl fyddai'n prynu tir o dan amodau arbennig am nifer penodol o flynyddoedd. Byddai arferion a chrefydd yr ymfudwyr i gyd yn cael eu parchu, ond ni fyddent yn cael eu heithrio o gyfreithiau'r Ymerodraeth. Ni byddai tollau porthladd ar longau a gariai ymfudwyr i amryfal borthladdoedd Brasil. Cadarnhaodd J F Froes eto y byddai'n gwneud pob dim o fewn ei allu i gydweithio gyda derbynnydd y llythyr, a mynegodd ddymuniad i glywed mwy ganddo am amcanion y Cymdeithasau roedd yn eu cynrychioli.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment