Skip to main content

Llythyr “at hen ffrind annwyl” gan awdur anhysbys o Estancia, Florida, 24 Mehefin, 1866

Disgrifiadau

Roedd awdur anhysbys y llythyr yn dweud yn drefn yn arw wrth ei “hen gyfaill annwyl” am beidio â chysylltu ers cymaint o amser, ac roedd ganddi eisiau gwybod am yr holl newyddion diweddaraf am Phillips, ei wraig, y plant a'r newydd-anedig. Cofiodd am y cwilt a wnaed yn arbennig ar ei chyfer a gafodd ganddynt. Adroddodd am y trip pleserus a gawsant, ond roedd wedi bwrw cnwd o eira na welsant ei debyg ers gadael UDA. Roedd Milonga yn dal i ddioddef o “Salwch Thomas” ac roedd yn aros ar hyn o bryd gyda theulu ei nai,ac yn derbyn triniaeth gan Dr Bond am y rhyddhad gwyn. Roedd Arthur yn bwriadu mynf i'w gweld. Anfonodd ei chofion at y teulu Roux, oedd yn arfer bod yn gymdogion i'w ffrind, ac roedd ganddi eisiau llythyr o leiaf un filltir o hyd yn adrodd yr holl newyddion diweddaraf am briodas grand Edward Manule a phawb roeddent ill dau yn eu hadnabod. Dim llofnod.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
24/6/1866
Gwelediadau:
671
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment