Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr i “Nain ac Ewythr” gan James Pickering a llythyr i “Ewythr” gan Thomas Pickering, y ddau wedi eu dyddio 8 Chwefror, 1865.

Dywedodd James fod y bechgyn wedi cael llythyr derbyniol ac ymddiheurodd fod eu llythyr diwethaf yn gwta oherwydd diffyg amser i'w ysgrifennu. Roedd dad wedi colli'r llythyr, felly roeddent yn ansicr o'r cwestiynau a ofynnwyd ac yn methu rhoi'r atebion cywir. Roedd dad wedi bod i Wednesbury ar fusnes ac wedi aros gyda Modryb Eleanor, oedd wedi estyn gwahoddiad i un ohonynt dreulio'r Nadolig gyda hi. Cydymdeimla James gyda nain ar ôl y tro a gafodd, ac roedd yn falch o glywed ei bod yn well erbyn hyn. Dywedodd fod Mr Caddell wedi priodi yr wythnos flaenorol, a byddai hynny'n peri syndod i nain hefyd. Gofynnodd i nain drefnu ymweliad i gynnwys Mr a Mrs Rowbotham, ac i adael iddynt wybod am y trefniadau cynted â phosibl. Roedd yn gobeithio fod ei ewythr wedi gwella o'r clwyf a gafodd, ac y byddai'n ysgrifennu'n fuan. (Gan James Pickeering, ŵyr a nai)

Dywedodd Thomas y byddai'n rhaid ysgrifennu'r llythyr ar frys er mwyn dal y post, felly efallai y byddai newyddion pwysig yn cael ei hepgor. Roeddynt yn falch bod ewythr yn gwella'n dda ar ôl y ddamwain. Ar ôl bod ym Mrasil am amser hir, a oedd Thomas Benbow Phillips yn ystyried ei hun yn fwy o frodor o Frasil nag o Sais, ac os felly, roedd eu mam yn dymuno iddo anfon y plant adref i Brydain i'w harbed rhag cael eu drafftio mewn i Fyddin Brasil. Ymddiheura fod y llythyr mor fyr, er fod ganddo fwy i'w ddweud, nid oedd amser yn caniatáu. Ôl Nodyn: Roedd yn crefu ar Thomas Benbow Phillips i ystyried dychwelyd gartref gyda'i wraig a'i blant ac agor siop fach ble byddent yn fwy cyfforddus, a nain yn fwy diogel. Dywedodd Thomas y byddai'n disgwyl derbyn llythyr yn fuan gyda newyddion am iechyd pawb. (Gan Thomas Pickering, nai)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw