Skip to main content

Llythyr i Mr a Mrs Phillips gan Walter Caddell, 21 Hydref, 1860

Disgrifiadau

Llythyr ysgrifennwyd at ei “chwaer a brawd yn y Ffydd” - Mr a Mrs Thomas Benbow Phillips gan Walter Caddell, yn 113 Plymout Grove, Manceinion, dyddiedig 21 Hydref 1860

Roedd Walter Caddell yn diolch i Mrs Thomas Benbow Phillips am ei llythyr caredig 6 Gorffennaf, gan nodi ei rhyddhad fod Thomas Benbow Phillips yn fyw ac yn iach yn y wlad baganaidd lle'r oedd wedi glanio, ac yn canmol Duw am ei gadw'n ddiogel. Roedd yn dyfynnu llawer adnod berthnasol o'r Beibl, ac yn adrodd hanes gwahanol gyfarfodydd a gynhaliwyd ym Manceinion, gan sôn am siaradwyr amrywiol a'r rhai a offrymodd weddȉau. Cynhaliwyd Ysgol Sul lwyddiannus gyda dros dri deg o blant yn bresennol, a bedyddiwyd llawer ohonynt. Noda newyddion drwg am rai o aelodau'r Eglwys a oedd yn wael iawn. Nid oedd Mr Pickering wedi ysgrifennu at Thomas Benbow Phillips ers amser, ond erbyn hyn roedd wedi cyrraedd Manceinion gyda'i holl deulu, ar ôl gwneud gwaith da iawn dros Dduw yn Iwerddon. Sonia hefyd am waith da wedi ei wneud yn yr Alban a Lloegr, Roedd Walter Caddell wedi gobeithio cyfarfod gyda merch Mrs Phillips a'i theulu cyn postio'r llythyr. Yn yr Ôl Nodyn, dywed ei fod wedi cyfarfod merch Mrs Phillips a'i theulu ac roeddent i gyd yn iach ac wedi cymryd ty yn Salfod, lle gallai Mr Phillips redeg ei fusnes. Roedd Margaret Woodend wedi marw a'i chladdu ym Mynwent Ardwick. Â ymlaen i gyfarch Thomas Benbow Phillips gan ddweud ei fod yn falch o glywed ei fod wedi ei achub ac yn dyfynnu rhagor o adnodau o'r Beibl. Sonia nad ydynt yn gweld Mr a Mrs Bannerman yn aml, dim ond pan oeddynt yn ymweld â ffrindiau, ond roeddynt yn derbyn newyddion yn y llythyron gan Mrs Bannerman. Diwedda'r llythyr gan addo ysgrifennu'n fuan.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
21/10/1860
Gwelediadau:
912
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment