Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan ei nai John Benbow, 28 Awst, 1853
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd gan John Benbow o Smith Hermanos, Montevideo.wedi ei gyfeirio ar T B Phillips Ysw, Carruthers Souza & Co, Rio Grande do Sul, Brasil, dyddiedig 28 Awst 1853
Gan fod ochr dde'r llythyr wedi rhwygo, mae nifer o'r geiriau ar yr ochr honno ar goll.
Esbonia John Benbow ei fod am adael Brazil i chwilio ei ffortiwn rhywle arall. Pan gyrhaeddodd Brazil, roedd yn brin o arian, ond llwyddodd i gael gwesty i aros ynddo a gwaith fel gwerthwr. Symudodd Prif Werthwr y cwmni i le o'r enw Entra Reios ac nid oedd John Benbow yn rhagweld y byddai'n dychwelyd. Roedd busnes yn dawel iawn ac reodd gan y staff lawer o amser rhydd ar eu dwylo. Dywed na all ymweld â'i ewythr cyn gadael, oherwydd diffyg amser, ond gobeithia fod ei law yn well ac roedd ganddo eisiau gwybod a glywsant o Loegr. A oedd yn bwriadu aros lle'r oedd neu symud i'r De? Holai hynt Mr Pickering a'i deulu ac os oedd wedi plannu cotwm a buasai wedi hoffi ysgrifennu ato, ond nid oedd amser yn caniatáu. Disgwyliai John Benbow lythyr yn fuan gan Thomas Benbow Phillips ac roedd yn anfon ei gariad. Dywedodd John Benbow wrtho fod gwasanaeth post dros y tir ddwywaith y mis o Montevideo i Rio Grande.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment