Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dywed J F Froes ei fod wedi synnu nad oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth oddi wrth Thomas Benbow Phillips yn ei hysbysu am y cynnydd yn y symudiadau, ond ei fod ef ei hun wedi bod yn gweithio'n galed iawn i hyrwyddo ymfudo'r Cymry i Rio Grande. Er fod llawer wedi ei wneud i hyrwyddo ymfuo, roedd rhai oedd yn gweithio yn eu herbyn. Buasai J F Froes yn gwerthfawrogi petai'r rhai oedd eisoed wedi cyrraedd yn ddiogel yn cyfleu'r neges fod pob dim yn dderbyniol, ac yn anfon adroddiadau cyson i Gymru i gadarnhau hyn, er mwyn sicrhau fod mwy o Gymry'n gwneud yr ymdrech i ymfudo. Roedd rhai o Loegr ac Iwerddon wedi ymfudo i Dpedro?, ac roedd un yn arbennig wedi anfon adroddiad gwahanol adre i'r rhai a anfonwyd gan Thomas Benbow Phillips i J F Froes. Anfonodd Mr Morgan adroddiad derbyniol i J F Froes am ymddygiad Thomas Benbow Phillips, a chredai efallai bod yr argraff gyntaf a gafodd y Sais wedi bod yn rhagfarnllyd yn ei erbyn, ond sylweddola efallai mai camgymeriad oedd hyn. Dywed J F Froes wrth Thomas Benbow Phillips ei fod yntau wedi derbyn ei siâr o gam-drin gan rai Cymry, yn enwedig un o'r enw Williams o Pelotes. Hefyd roedd Eleasar Jones yn ymddangos ei fod yn perswadio pobl i ymfudo i Efrog Newydd er mwy iddo ef gael y comisiwn wrth drefnu'r teithiau. Hybysa Thomas Benbow Phillips fod cwmni newydd wedi ei sefydlu a fyddai'n cychwyn teithiau stêm i Brasil ddwywaith y mis yn ystod y flwyddyn ddilynol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw