Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips oedd yn Rio Grande do Sul, anfonwyd iddo yng ngofal Messers Carruthers, Sousa & Co, Rio Grande do Sul, gan Joao Fransisco Froes yn Lerpwl, dyddiedig 8 Mai 1851

Hysbysir Thoms Benbow Phillips gan J F Froes fod ei gefnder, Mr John Benbow, ei wraig newydd a'i dau blentyn hi wedi hwylio i Rio de Janeiro ar yr “Admiral Grenfell”, ac mae'n cyfarwyddo Thomas Benbow Phillips i fynd i'w cyfarfod. Hefyd ar y llong mae'r teulu Morgan o Gymru yn cynnwys tri dyn, dwy wraig a babi, ac mae'n awgrymu bod Thomas Benbow Phillips yn sicrhau fod fferm fechan ar eu cyfer.

Roedd J F Froes wedi ysgrifennu erthyglau yn “Yr Amserau” a thalu am ddarlithwyr i deithio o amgylch De Cymru i hyrwyddo'r Wladfa, gydag ef ei hun yn mynd i Ogledd Cymru. Roedd yn ffyddiog y byddai hyn yn golygu y byddai llawer mwy o Gymry yn ystyried gwneud y daith. Gofynna i Thomas Benbow Phillips i anfon mwy o wybodaeth pendant, syml.

Bydddai'r “Irene” yn hwylio eto y mis canlynol gyda nifer o deuluoedd Cymraeg arni, yn cynnwys rhieni Thomas Benbow Phillips, ac roedd J F Froes yn ei gyfarwyddo i wneud trefniadau ar eu cyfer.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw