Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips yn Rio Grande gan Joao Fransisco Froes yn Lerpwl, dyddiedig 7 Mawrth 1851

Ers ysgrifennu at Thomas Benbow Phillips yn Sant Pedro, mae'n adrodd iddo dderbyn cyngor difyr o Rio Grande a nifer fawr o ymholiadadau o bob rhan o Gymru, nes bod ganddo bob hyder y byddai nifer fawr o Gymry yn ymfudo. Roedd wedi cynnwys erthyglau bob wythnos yn yr “Amserau” ac mewn sawl papur newydd Cymreig arall. Roedd hyn wedi golygu cost bersonol o £10 iddo, roedd wedi awdurdodi Evan Evans i wario £20 yn ychwanegol ac roedd o'n bersonol yn fodlon i awdurdodi cymorth o £100 am bob mordaith. Roedd perthynas i Thomas Benbow Phillips – Mr Benbow - ynghŷd â'i wraig ac wyth o bobl eraill yn barod i fynd allan yn ystod Ebrill neu Fai. Roedd teuluoedd eraill o Sir Frycheiniog hefyd yn paratoi i adael, ynghŷd â Mr Smith ac ugain o bobl eraill, felly credai fod posibilrwydd y byddai tua chant o bobl yn ymadael yn Ebrill neu Mai. Gofynnodd J F Froes am gynllun o'r tir a ddarganfu Thomas Benbow Phillips, ei ansawdd a'i bris. Beirniadodd ef am awgrymu fod y drefedigaeth Wyddelig yn fethiant llwyr pan oedd ganddo fo'n bersonol lythyrau yn nodi'r gwrthwyneb, a rhybuddiodd Thomas Benbow Phillips i fod yn ofalus i beidio â rhannu gwybodaeth anghywir. Roedd J F Froes hefyd yn amgáu llythyrau i Thomas Benbow Phillips.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw