Llythyr i Thomas Benbow Phillips gan Evan Evans, 10 Chwefror, 1851
Disgrifiadau
Llythyr ysgrifennwyd at Senor T B Phillips yn Carrutheus Sousa 44, Rio Grande de Sul, Brasil gan Evan Evans, Brynmawr dyddiedig Chwefror 10, 1851.
Roedd Evan Evans yn egluro iddo dderbyn llythyr nid un unig gan T B Phillips ond gan ei dad hefyd, a'r cynnwys yn nodi gwybodaeth ychwanegol am y Drefedigaeth newydd. Roedd wedi cyfrannu adroddiad byr i'r “Amserau”i geisio lleddfu pryderon rhai awduron am addasrwydd Rio Grande fel Trefedigaeth. Anfonodd ei gyfarchion at y cryddion John ac Isaac Griffiths a'r teilwr, W Edmusson. Ychydig o bobl oedd yn fodlon cyfrannu arian at sefydlu Sasiwn yn y Drefedigaeth nes y byddent wedi derbyn mwy o ffeithiau perthnasol. Nododd Evan Evans ei fod o blaid sefydlu Trefedigaeth gwbl Gymraeg a Chymreig. Dywedodd hefyd y byddai tua 100 teulu yn fodlon ymfudo gydag ef, petai'n gallu fforddio talu am y siwrnai. Hefyd, diolcha ymlaen llaw i Thomas Benbow Phillips am roi gwybodaeth am anfanteision yn ogystal â manteision y wlad, a gofynna am atebion i nifer o gwestiynau a restrir ganddo am y diriogaeth, anifeiliaid gwyllt, addysg, crefydd, y llwythau Indiaidd brodorol, pris halen ac os oedd toll mewnforio ar lyfrau.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment