Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips yn 7, Wood Street, Hulme, Manceinion gan Evan Evans ym Mrynmawr dyddiedig 30 Ebrill, 1850
Disgrifiadau
Roedd Evan Evans yn ansicr o'i gynlluniau i ymfudo yn y dyfodol, ond roedd ei gymdogion yn awyddus iddo wneud penderfyniad oherwydd roedd ganddynt hwy eisiau ymfudo gyda fo. Dywed nad oedd ganddo ofn y siwrnai, ond roedd ansicr o'i rôl wedi cyrraedd. Teimla bod y Parch Owen Jones wedi bod yn rhy hael yn ei ganmoliaeth ohono. Hoffai fwy o amser iddo ef a'i deulu i baratoi, ond gallai ei gymdogion fynd ynghynt pe dewisent. Honna nad yw wedi llwyr benderfynu mynd ar hyn o bryd, ond os nad â, nid âi ei gymdogion chwaith. Roedd Evan Evans yn gofyn i Thomas Benbow Phillips gysylltu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i ddweud wrthynt ei fod wedi gwneud trefniadau i ad-dalu'r ddyled, hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth, gan mai hyn oedd wrth wraidd ei anghytundeb gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn y lle cyntaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment