Skip to main content

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Evan Evans o Frynmawr dyddiedig 5 Mai 1850

Disgrifiadau

Mae'n diolch i Thomas Benbow Phillips am ei ateb buan, ond yn nodi mai goneddu Duw ddylai fod yn brif amcan iddo, ac y dylai gwasanaethu'r genedl fod yn fodd i ymgyrraedd at hynny. Ond oherwydd problemau ariannol, ni fyddai Evan Evans yn gallu talu hyd yn oed hanner pris ei fordaith, oherwydd bu'n rhaid iddo dalu ei ddyledion gyda'i holl eiddo, ac ni fyddai modd ganddo i'w gynnal ei hun na'i deulu ym Mrasil. Oni byddai pris y fordaith llawn yn cael ei dalu dros Evan Evans a'i deulu o wyth, ni fyddent yn gallu teithio. Roedd dau deulu o gymdogion a rhai unigolion eraill yn bwriadu mynd ar y daith ar y ddealltwriaeth mai dim ónd hanner pris y fordaith y byddent yn gorfod ei dalu. Awgryma y byddai'n well i nifer fach, gan gynnwys ef ei hun, fynd drosodd i sefydlu'r Wladfa mewn lleoliad addas, cyn i weddill y grwp ymuno â nhw. Honna fod ganddo ffydd mawr yn Thomas Benbow Phillips, gyda chymorth Duw, i ddewis y lleoliad gorau ynglŷn â hinsawdd, diogelwch, mynediad at fasnach ac i roi enwau Cymraeg i'r lleoedd. Gofyn am gadarnhad sut y gallai wneud cais am fordaith am ddim, a ddylid newid arian yn Lerpwl neu gario sterling i Rio Grande a phwy ddylai arwyddo y tyst cymeriad ar gyfer Llywodraeth Brazil. Gofynna Evan Evans am gyfeiriad y Parch Owen Jones, er mwyn iddo gysylltu efo fo'n uniongyrchol ar ôl i Thomas Benbow Phillips hwylio o Lerpwl.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
5/5/1850
Gwelediadau:
713
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment