Skip to main content

Llythyr ysgrifennwyd at Thomas Benbow Phillips gan Evan Evans (Llyfrwerthwr) o Frynmawr dyddiedig 19 Ebrill 1850

Disgrifiadau

Diolchodd Evan Evans i Thomas Benbow Phillips am ei ohebiaeth, ac er fod ganddo deulu yn Ohio, roedd yn tueddu i ffafrio mynd i Rio Grande. Ei reswm dros fynd i Rio Grande oedd i wneud daioni i eraill, ond nid oedd yn ddigon cryf i ymgymryd â gwaith corfforol trwm. Roedd ganddo angen ychydig fisoedd i roi trefn ar y teulu cyn teithio, ac o bosibl byddai arno angen cymorth ariannol – yr un modd â'i gymdogion, ac awgryma y dylai seiri a gofaint fod yn uchel ar y rhestr. Fodd bynnag, roedd Evan Evans mewn dadl gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg dros ddigwyddiad nad oedd wedi ei ddatrys, ac felly ar hyn o bryd, nid oedd yn rhydd i ymfudo. Cyfeiria at wahanol bwyntiau i'w hystyried a fyddai'n ychwanegu at lwyddiant y Wladfa, ac mae'r rhain yn amrywio o gyfeirio at y Pilgrim Fathers a ymfudodd yn 1620, a sut y dylid ystyried eu llwyddiant fel esiampl i greu cyfleusterau teithio, trefi, adeiladau, strydoedd ayb. Gofynna Evan Evans am gadarnhâd am gymorth iddo'i hun ac eraill petaent yn penderfynu ymfudo ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, gwybodaeth am hyd y fordaith, yr iaith a siaredid ym Mrasil, a sut i gysylltu gyda Thomas Benbow Phillips ar ôl cyrraedd.

Owner:
Silvia Elvina Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
15/11/2017
Date originally created:
19/4/1850
Gwelediadau:
724
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment