Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ar ôl diolch i T B Phillips am ei ohebiaeth, dywed Evan Evans y byddai'n gwerthfawrogi derbyn nodyn pan fyddai wedi cyrraedd Lerpwl, er ei fod yn deall ei fod yn brysur iawn, Cytuna gyda sefydlu Cymdeithas, ond oherwydd ymrwymiadau presennol, nid yw wedi cymryd rhan flaenallaw yn y trafodaethau. Awgrymodd y dylai costau teithio amrywio rhwng £10 a £12 ac y dylid casglu'r cyfraniadau ar unwaith, a threfnu cynllun manwl o'r cyfraniadau yn ôl dosbarth i unigolion gwahanol. Dylid fetio'r aelodau yn ôl eu sobrwydd, a rhoi blaenoriaeth i lwyrymwrthodwyr. Hefyd gellid bwrw coelbren, ac mae'n cynnwys rhestr o amodau i'w hystyried gan Thomas Benbow Phillips, gan groesawu ei sylwadau. Ychwanega sylwadau am leoliad y Wladfa, gan gofio rhoi ystyriaeth ddwys i'r lleoliad fydd yn golygu dyfodol i genedl gyfan. Honna bod angen i'r lleoliad fod yn ddiogel ond y dylid cael ffyrdd teithio a masnach cyfleus i bob cyfeiriad. Dylid adeiladu rheilffyrdd a chamlesi er hwylusdod y Wladfa a masnach yn y dyfodol gyda'r byd y tu allan. Byddai'n gwerthfawrogi derbyn nodyn oddi wrth Thomas Benbow Phillips cyn iddo gychwyn ar ei daith ac ar ôl cyrraedd pen ei daith, ynghŷd â chopi arall o Brosbesctws y Gymdeithas. Mae'n awgrymu galw'r dref gyntaf yn “Caerphilip”, rhoi enwau Cymraeg ar y llefydd eraill; dymuna Duw'n rhwydd iddo ar ei daith.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw