Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dywed Edward Benbow nad yw wedi wedi cael amser da iawn yn ddiweddar oherwydd gwaeledd a thrafferth dod o hyd i waith. Roedd wedi gwneud ymholiadau am yr hen deulu Admiral o Blwyf Deptford ynglŷn â genedigaethau a marwolaethau. Ar ôl llawer o ymchwil daeth o hyd i'r gladdgell mewn mynwent gydag enwau'r teulu ar y garreg ac ar blac metal o dan y gladdgell. Roedd hefyd wedi siarad gyda chymdogion, ac roedd rhai ohonynt yn hapus i glywed fod etifedd i'r stad wedi ei ddarganfod. Serch hynny, gan nad oedd rhai o'r tenantiaid presennol yn talu rhent, roeddynt yn poeni am eu dyfodol. Cafodd Edward Benbow wybod gan ei fam mai ewythr oedd biau'r eiddo. Dealloddd Edward gan David Benbow fod perthnasau wedi cynnal cyfarfod mewn tref fach yng Nghymru, ond na allai fynychu'r cyfarfod oherwydd ei fod yn Hampshire, ac nad oedd wedi cael gwybodaeth am yr hyn a drafodwyd. Addawyd y byddai ei fam yn cael ymweliad ar ôl y cyfarfod, ond ni ddaeth hyn i fod. Yn ôl dau hynafgwr oedd yn byw yn Deptford tua ugain mlynedd yn ôl, bu ymladd rhwng aelodau o'r teulu ynglŷn â pherchen cyfreithiol yr eiddo. Roedd Edward Benbow yn dal i aros am fwy o fanylion am y cyfarfod a fu yng Nghymru cyn gweud trefniadau i fynd i gyfraith i roi terfyn ar y mater. Cost hynny fyddai 6s a 6d am dridau o waith, ond dyma fyddai'r ffordd ddoethaf a rhataf i ddod â'r mater i ben. Bu mwy o gyfathrebu â'r teulu yng Nghymru, heb ateb eto. Roedd Edward yn bwriadu ymweld â Chymru.

Y llythyr i'w adael i sylw Mr John Benbow gyda Mr Joseph Clarke and Bros, Phoenix Mills, Mills Street, Manceinion

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw