Y Crinjar
Disgrifiadau
Dyn gyda phwerau goruwchnaturiol oedd y crinjar. Gallai godi melltithion a datgelu’r rhai a oedd yn gyfrifol amdanynt. Gofynnwyd i’r crinjar am ei gymorth os ceid lwc ddrwg, e.e. afiechyd annaturiol, colli eiddo gwerthfawr neu anifeiliaid fferm yn gwanhau, er mwyn datgelu pwy oedd wedi gwneud y “witsio”.
Roedd ardal Llangurig, yn yr hen sir Drefaldwyn yn enwog am lawer crinjar. Evan Griffiths, Pantybenni, oedd un ohonynt. Gwrandewch ar stori amdano a dadroddwyd gan Mr Francis Thomas, Carno.
Credai ffarmwr bod rhywun wedi ei felltithio ef a’i geffylau gan eu bod nhw ar farw. Dyma oedd cyngor Evan Griffiths:
Ewch adre a tynnwch calon y gaseg ’ma allan a rhowch hi ar blât mawr o flaen tân. Reit o flaen tân. A fel fydd y galon ’ma’n cnesu yn gwres yr tân, mi fydd y perch... yr un sy wedi neud, wedi’ch witsho chi’n dŵad yn nes at y tŷ, yn nes at y tŷ o hyd.
Ag os dach chi’n gwbod am Plas Pennant, ma y tŷ ar draws ffor’ a wedyn mae llidiart, tŷ ar draws top y ffalt, ag yn gwaelod y ffalt mae llidiart myn’ allan i ffor’. A edrych allan drwy’r ffenest, diawl yn union dyma’r Dot ’ma o Ceulan lawr yn pasho llidiart. Pasho ’i wedyn, pasho ’i wedyn, a fel odd y galon yn cnesu. Ag dyma, o’r diwedd dyma ’i’n mentro drwy llidiat a hanner fyny’r ffalt. A medde yr hen ddyn,
“Duw, duw”, ma fo felna, “tynna’r galon nôl, dwi ’im ishe gweld y cythral tu fiwn i’r drws tŷ ’ma”.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment