Keir Hardie Rhan 3: Aelod Seneddol a Sefydlu'r Blaid Lafur
Disgrifiadau
Tua 23 milltir i'r gogledd o Gaerdydd, saif tref o’r enw Merthyr Tudful. Mae wedi'i lleoli o fewn ei bwrdeistref ei hun, ac ar un adeg hi oedd y dref fwyaf yng Nghymru, a chyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol, byddai poblogaeth Merthyr yn gweithio yn y swyddi mwyaf caled a pheryglus oedd ar gael. Tua 380 milltir i ffwrdd yn Lanarkshire yn Yr Alban, ganwyd dyn a fyddai’n cymryd y bobl yma i'w galon, ac a fyddai'n ymladd dros eu hawl i fyw a gweithio’n ddiogel ac mewn hedd – a'r dyn hwnnw oedd James Kier Hardie. Ac yntau wedi arfer gweithio yn y pyllau glo ei hun, daeth Hardie yn AS ar gyfer Merthyr ac Aberdâr, ac aeth ag achos y dyn dosbarth gweithiol yr holl ffordd i’r Senedd yn Llundain. Er hynny, chwalwyd ei obeithion am heddwch gyda dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe gymerodd ei fywyd oddi arno hefyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment