Dadorchuddio Cofeb Gwenllian 1991
Disgrifiadau
Dadorchuddio Cofeb Gwenllian, Cydweli, Mai 23, 1991. Gwynfor Evans yn annerch.
Pwyllgor Dyfed Merched y Wawr wnaeth drefnu a chodi arian tuag at Cofeb Gwenllian yng Nghydweli. Breuddwyd Dr Gwynfor Evans oedd y gofeb yn wreiddiol ac ef wnaeth ei dadorchuddio. Ieuan Rees o Rydaman oedd y cerflunydd.
Bu farw’r Dywysoges Gwenllian, ynghyd â’i mab Morgan, ar faes y gad ym 1136 yng Nghydweli wrth ymladd arglwydd y castell, Maurice de Londres, er mwyn achub Deheubarth (de-orllewin Cymru) rhag goresgynwyr Normanaidd. Roedd Gwenllian yn ferch i Gruffydd ap Cynan ac yn wraig i Gruffydd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth ac Arglwydd Ystrad Tywi. Cafodd Gwenllian bedwar o feibion, gan gynnwys Rhys ap Gruffudd, yr Arglwydd Rhys.
Gwnaeth Gwenllian gyfraniad arwrol yn y brwydro hir a thyngedfennol yn erbyn y Normaniaid a sicrhaodd barhad yr iaith Gymraeg a chenedligrwydd Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment