Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Taflen yn rhoi ychydig o hanes Merched y Wawr Cangen Pencader a’r Cylch. Sefydlwyd Cangen Pencader a’r Cylch mewn cyfarfod yng nghapel Gwyddgrug ar y 28ain o Fedi (cofnodion y gangen yn nodi 26ain), 1968, gyda Mrs Gwyneth Evans yn annerch a Mrs Gerallt Jones yn llywyddu. Hi oedd un o’r canghennau cyntaf i’w sefydlu yn Rhanbarth Caerfyrddin.
Tudalen flaen
Yn y llun mae Llywydd cyntaf y gangen, Mrs Gerallt Jones, yn annerch ym mhasiant Dathlu’r Degawd yn Neuadd Alltwalis ym 1978.
Mrs Gerallt Jones yn y blaen
Yn y cefn - ? Davies, Meinir Ffransis, Betty May Davies, Eirwen Jones, Mair Lake, Margaret Rees, Nanno Davies

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw