Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ym 1839 fe arweiniodd John Frost, un o gyn feiri Casnewydd, filoedd o ddynion ar orymdaith i Gasnewydd fel rhan o ymgyrch Siarter y Bobl i sicrhau diwygio etholiadol. Bu sgarmes rhwng y Siartwyr a’r milwyr a saethwyd mwy nag ugain o ddynion yn farw.

Cafodd murlun mosaig a oedd yn dangos golygfeydd o’r gwrthryfel ei greu ar fur maes parcio aml-lawr yn y fynedfa ogleddol i Sgwâr John Frost. Defnyddiodd Kenneth Budd, yr artist, 200,000 o ddarnau o deilsen yn y murlun a gwblhawyd ym 1978. Dinistriwyd y murlun gan Gyngor Dinas Casnewydd ar 3 Hydref 2013. Tynnwyd y llun ym mis Mawrth 2010.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw