Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyfweliad gyda Jeanette Groves am ei gwaith yn Western Shirt Company, Westgate Street

Gadawodd Jeanette yr ysgol yn 14oed (1946) a dechrau yn y ffatri wnïo, lle’r arferai ei mam weithio. Dechreuodd yn yr ystafell dorri ac yna aeth yn 'machinist'. Nodwyddau trwy fysedd, y siswrn i’w llygad a chollodd un fenyw ei gwallt (yng nghyfnod ei mam). Teithio i’r gwaith ar y bws neu’r beic. Gwisgo rolyrs i’r gwaith ond yna gwisgo colur a chribo’r gwallt yn ystod toriad y bore. Gwnâi rhai eu dillad eu hunain yn ystod yr amser cinio. Roedd yn rhaid datod unrhyw gamgymeriad a byddent yn helpu ei gilydd rhag colli arian. Ei nod hi oedd: dwsin o grysau mewn awr am swllt y dwsin. Allan o gwmpas Caerdydd yn ystod amser cinio. Ai tyrfa ohonynt allan gyda’r nos - yn dawnsio. Rhaid aros nes bod golau naturiol cyn gwnïo defnyddiau tywyll. Dim ond crysau a phyjamas yr oeddent yn eu cynhyrchu. Pryfocio'r un peiriannwr trwy ymyrryd â’u peiriannau. Tripiau blynyddol a chael sigarennau. Gadawodd ar ôl 3 blynedd am fod tiwbercwlosis arni. Priododd a symud i Fryste lle cafodd ei gwella ymhen amser.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw