Cyfweliad, Era Francis. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda Era Francis am ei gwaith yn Smith's Crisps, Abertawe / Swansea
Gadawodd Era yr ysgol yn 15oed (1948) ac ar ôl gweithio mewn londri, dechreuodd yn ffatri Smiths yn 1951/2. Disgrifia adrannau’r ffatri a sut y gweithiai popeth yn ôl chwibanau. Gwisgai sgarff dros ei gwallt. Ei gwaith hi oedd pacio’r bagiau creision. Roedd yn rhaid cael caniatâd i adael y peiriant. Pan oedd yn pigo’r creision â llaw âi’r bysedd yn dost am fod y creision yn finiog. Defnyddiai Nu-skin ar y briwiau. Gweithiodd yno am 5-6 mlynedd. Gwynt creision Smiths. Roedd y rhai fyny grisiau yn y gegin yn gorfod gwisgo clocs am fod y llawr yn llithrig gan olew. Byddent yn glanhau peiriannau eu hadran bob nos. Cylchdroi gwaith yn yr adran. Bagiau o halen a’r ystafell halen. Radio a chanu. Mantais prynu creision yn rhatach. Defnyddient lud i lynu’r pecynnau creision. Targedau a chael bonysau. Roedd rhai yn rhegi yn ofnadwy yno - roedd arni eu hofn. Pan briododd hi cafodd bythefnos i ffwrdd â thâl. Sonia am theatr yr Empire. Roedd yn rhaid iddi roi ei chyflog i’w mam tan ei bod yn 21 - dyna’r rheol. Gadawodd pan briododd (1956) - roedd y teithio yn dreth. Llawer o wthio i fynd ar y bws. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Woolworth’s am 20 mlynedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment